Dechreuodd MyST, Fy Nhîm Cymorth, a elwid gynt yn MIST, ym mwrdeistref ALl Gwent yn Nhorfaen yn 2004. Fe’i ffurfiwyd fel partneriaeth aml-asiantaeth, ar y pryd yn dilyn cyfeiriad strategol polisi iechyd meddwl cenedlaethol, Busnes Pawb a’r grŵp cynllunio strategol CAMHS. Ei dasg oedd bod yn arloesol a chreu gwasanaeth iechyd meddwl lleol, yn y gymuned ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion iechyd meddwl cymhleth a fyddai fel arfer yn gorfod byw i ffwrdd o’u cymuned leol mewn darpariaethau arbenigol megis gofal preswyl, ysbyty neu leoliadau diogel. Datblygwyd MIST i ddechrau mewn 2 ardal awdurdod lleol ond ers 2019, mae wedi esblygu i fod yn Wasanaeth Partneriaeth Rhanbarthol, sy’n cwmpasu pob un o’r 5 ardal awdurdod lleol sy’n rhan o ôl-troed awdurdod lleol Gwent a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
Mae MyST yn ei hanfod yn parhau i fod yn fodel gofal cymunedol sy’n seiliedig ar werthoedd, yn cyd-greu amgylcheddau galluogi sy’n hyrwyddo cynhwysiant, cyfranogiad, ymdeimlad o berthyn ac asiantaeth, diwylliant o ymholi, bod yn agored, ac ansawdd diogelwch i bawb.
Mae MyST yn wasanaeth iechyd meddwl dwys i blant, pobl ifanc a’u gofalwyr/teuluoedd sy’n ymwneud â gofal cymdeithasol plant. Yn bennaf, ond nid yn gyfan gwbl, mae ein pobl ifanc yn derbyn gofal gan ardal eu hawdurdod lleol neu’n ymwneud yn helaeth â gofal cymdeithasol plant, gyda’r nod o geisio atal eu llwybrau gofal rhag gwaethygu neu atal y teulu rhag chwalu. Rydym yn gofalu am bobl ifanc o 4 oed hyd at 16 oed ar yr adeg y maent yn dod yn rhan o’n gwasanaeth, a gallwn barhau hyd at 18 oed, yn aml yn darparu parhad o ran perthnasoedd a gofal dros y tymor hwy.
Mae ein pobl ifanc wedi’u nodi fel rhai sydd ag anghenion iechyd meddwl cymhleth, sy’n rhychwantu holl feysydd eu bywydau, megis:
Yn aml bydd pobl ifanc sy’n ymwneud â’n gwasanaeth wedi derbyn lefelau eraill o ddarpariaeth gwasanaeth cyn bod yn rhan o’r rhaglen MyST. Mae hyn yn dilyn yr egwyddor y dylid rhoi cynnig ar y ddarpariaeth leiaf ymwthiol yn gyntaf cyn i ni ofyn i’r bobl ifanc a’r teuluoedd ymwneud â gwasanaeth dwys.