Yr wythnos ddiwethaf, fy merch oedd y cyntaf o’n teulu i gael pen-blwydd yn ystod y cyfnod clo. Yn brofiad newydd i bob un ohonom, roedd yn ymddangos ei bod yn ymlwybro’n hyderus. Roedd hi’n gwybod yn union beth hoffai hi ei wneud i ddathlu, ac roedd ‘pasio’r parsel’ ar frig ei dymuniadau. Yn hen ffefryn mewn unrhyw barti ni chawsom ein siomi. Mae rhywfaint o foddhad rhyfedd wrth ailadrodd yr un broses o basio a dadlapio haen dro ar ôl tro. Syml, ond eto’n foddhaus ac yn gymhellol.
Mae pasio’r parsel wrth gwrs yn enghraifft o ffractal. Wedi’i enwi gyntaf ym 1975 gan y Mathemategydd Benoit Mandlebrot, mae ffractal yn beth sy’n cynnwys patrymau o ffurf ailadroddus o wahanol feintiau a graddfeydd. A phan rydych chi wedi sylwi arnyn nhw, maen nhw’n troi allan i fod ym mhobman. Brocoli. Doli Rwsiaidd. Pluen eira.
Mewn seicoleg, mae gennym derm am y math hwn o ffenomen ym maes perthnasoedd rhyngbersonol; ‘Prosesau cyfochrog’. Mae’r hyn sy’n digwydd mewn un berthynas mewn system yn cael ei ailadrodd mewn eraill. Un broses berthynol o’r fath, sy’n cael ei hailadrodd yn gyffredin iawn yn ein gwaith gyda phlant sy’n derbyn gofal a’u systemau oedolion, yw hollti. Mae hollti’n golygu gwahanu pobl i wahanol ochrau. Gweld, er enghraifft, un cystal ac un cynddrwg, neu un mor gywir ac un mor anghywir. Yn ein gwaith, mae’r patrwm rhyngbersonol hwn yn cael ei ailadrodd dro ar ôl tro. Gallai hyd yn oed fod yn ffractal perffaith ein cyd-destun. Mae’n gwneud brocoli ohonom.
Mewn trafodaeth glinigol ddiweddar dadansoddodd ein tîm y ffractal hollti hwn yn ein gwaith: Mae rhieni plentyn wedi gwahanu. Pan geisiwn ymgysylltu â’r ddau riant ynghylch eu perthnasoedd â’u mab, eu hymateb yw ‘Os siaradwch chi â’r un arall, nid wyf fi’n siarad â chi. Rydych chi gyda fi neu rydych yn fy erbyn i.’ Nawr rydym ni hefyd wedi ‘n hollti yn eu tyb hwy. Mae Gofalwr Maeth y plentyn yn cymeradwyo ffyrdd un rhiant o wneud pethau’n fwy na’r llall, ac mae’n cymryd ochr. Mae rhaniad yn digwydd eto. Mae’r Gweithiwr Cymdeithasol yn teimlo’n bod yn canolbwyntio’n sylw’n ormodol ar ennyn diddordeb y rhieni ym mywyd y plentyn a dylem gadw at gefnogi’r lleoliad maeth. Hollti. Rydym ni’n dechrau teimlo nad yw’r Gweithiwr Cymdeithasol yn deall ein gwaith a ninnau’n unig yn ei ddeall. Hollt. Ni ddylai hwn nid y llall, fi nid chi, ef nid hi, fod yn iawn.
Mae rhai ffractalau’n bethau hardd iawn. Pa mor hudol yw pluen eira neu goeden er enghraifft? Ond mae rhai’n bethau difrifol wael megis ein sefyllfa glinigol o hollti a ddisgrifir yma. Felly sut gallem weithio yn y cyd-destunau hyn? Gallwn fod yn ymwybodol bod systemau dynol yn creu patrymau ailadroddus ac os gallwn ni weld rhywbeth ‘allan fan yna’ ymhlith eraill, byddai’n ddoeth i ni edrych a yw’n cael ei ailadrodd yn agosach at adref ymysg ein gilydd hefyd. Gallwn yn ogystal weld y patrwm yn dynesu a dewis peidio â’i ailadrodd. Yn lle hynny, gallwn gyflwyno gwahaniaeth a newid y patrwm. Fel wrth basio’r parsel, gallwn wrthod trosglwyddo’r holltau, y dyfarniadau a’r eithriadau. Yn hytrach, gallwn benderfynu trosglwyddo cynhwysiant, gweld a gwerthfawrogi’r pwynt ym mhob safbwynt, a chredu bod gan bawb gyfraniad pwysig i’w wneud ym mywyd plentyn.
Mae ffractalau’n hyfryd o syml ac yn annherfynol o gymhleth. Torrwch gôd y broses syml sy’n cael ei hailadrodd ac mae gennym yr allwedd hanfodol i ddatgloi’r holl broblem gymhleth. Mewn systemau o amgylch plant sy’n derbyn gofal, gadewch inni beidio â hollti mwy. Y gwahaniaeth sy’n datgloi’r patrwm penodol hwn yw undod, partneriaeth, cynhwysiant. Dyma’r ffordd i ddymchwel ymerodraeth gyfan o gamweithredu.
Jen & Jael