Y diwrnod o’r blaen, cefais achos i ddarllen llythyr asesu roeddwn wedi’i ysgrifennu bron i 20 mlynedd yn ôl fel seicolegydd clinigol ifanc. Er ei fod yn glinigol gymwys mewn ystyr sylfaenol, roeddwn yn poeni am yr hyn a ddarllenais. Roeddwn wedi ysgrifennu’r adroddiad fel pe bawn i ‘Yr Arbenigwr’. Roedd yna iaith sicrwydd, o aralloli, o roi’r ddamcaniaeth o flaen y person dan sylw.
Roedd fy nghysyniad cyntaf yn eithaf beirniadol: Sut ar y ddaear oeddwn i wedi colli fy ffordd yn ôl bryd hynny? Efallai mai adlewyrchiad mwy tosturiol yw ein bod ni gyd yn gallu llochesu yn y sefyllfa ‘arbenigol’ ar adegau, ac mae hyn yn ddealladwy, ac eto angen her serch hynny.
Efallai fel ymarferydd ifanc, nad oeddwn i wedi magu’r hyder bod yr hyn oeddwn yn dod i wybod am blentyn a’i system oedolion yn ddilys ac yn fuddiol. Gallai hyn fod yn rheswm pam fy mod wedi dyrchafu ‘grefi’ fy arbenigedd seicolegol uwchben ‘cig a thatws’ fy marn glinigol a ffurfiwyd mewn perthynas â’r cleient.
Y ‘cig a’r tatws’ yw’r ddealltwriaeth sy’n deillio o gymryd rhan yn y cyfarfyddiad clinigol go iawn â phlant a theuluoedd. Mae’n cynnwys gwerthfawrogi dynoliaeth hanfodol y cleient a’r ymarferydd ei hun. O’r cyfarfyddiad dynol gonest hwn y deillia safbwynt clinigol sylfaenol.
Nawr pwy sy’n hoffi dim ond platiad o refi tybed? Mae unrhyw arbenigwr cinio rhost dydd Sul yn gwybod bod y bwyd a’r grefi yn ategu ei gilydd, ac wedi’u cyfuno gyda’i gilydd yn dda, gwnânt bryd o fwyd sy’n gwirioneddol fodloni ac yn darparu’r egni ar gyfer mynd rhagddo.
Yng ngeiriau gwych a gogoneddus, os newidiwyd hwy ychydig, Wizzard : ‘Wel, fe hoffwn pe gallai fod yn ddydd Sul bob dyyydd! Pan fydd y plant yn dechrau canu a’r band yn dechrau chwaaaarae’n rhydd …’.
Jen and Jael