Helo’r Byd,
Mae cymaint wedi newid ar hyn o bryd fel ei bod yn ymddangos i ni yn foment amserol i wneud newid hefyd, a dechrau ysgrifennu’n blog. Hwyrach y dylem ddechrau trwy gyflwyno’n hunain a’n blog: Mae wedi’i ysgrifennu yn yr ysbryd o fod eisiau cymryd rhan mewn deialog ag eraill. I ni, deialog sy’n cynhyrchu creadigrwydd, a thrwy adborth y gallwn ddarganfod a yw’n gwaith yn cyrraedd ei nod. Amcan penodol ein gwaith yw gwella bywydau, ac iechyd meddwl yn benodol, y plant sy’n derbyn gofal yn ne Cymru. Rydym yn gweithredu o fewn y rhaglen ranbarthol Fy Nhîm Cymorth (Mhyst ), sy’n darparu gwasanaeth iechyd meddwl arbenigol dwys i blant ag anghenion arbennig o gymhleth sy’n derbyn gofal ar draws y pum Awdurdod Lleol a Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yng Ngwent. Rydym yn gweithio i gefnogi plant i fyw mewn teuluoedd (biolegol a maeth) yn lle tyfu i fyny mewn cartrefi gofal preswyl, unedau diogel a lleoliadau mewnol i gleifion iechyd meddwl. Rydym yn gwneud hyn trwy weithio mewn partneriaeth ym mhob dull a modd. Rydym yn gweithio gyda phlant a theuluoedd fel arbenigwyr yn eu profiad eu hunain, gyda pharch diffuant at eu gwybodaeth. Rydym yn gweithio gyda phawb o fewn ecosystem plentyn, gan wybod bod yn rhaid i’r cyfan weithio er mwyn gweithio’n llwyddiannus mewn system ddynol ryng-gysylltiedig. Rydym yn gweithio gyda rhwydweithiau o gydweithwyr proffesiynol ar draws asiantaethau i harneisio potensial y system gyfan. Ac rydym yn cael ein comisiynu, ein rheoli a’n hariannu trwy grŵp partneriaeth Gofal Cymdeithasol, Iechyd ac Addysg.
Efallai y byddai’n ddefnyddiol inni grybwyll ein cefndir, un ohonom yn nyrs iechyd meddwl (Jen) a’r llall yn seicolegydd clinigol (Jael). Ein rolau nawr yw Cyfarwyddwr Rhaglen (Jen) a Chyfarwyddwr Clinigol (Jael) y rhaglen ranbarthol Fy Nhîm Cymorth (MyST). Cawsom ein hyfforddi ac rydym wedi gweithio o fewn y GIG am 20-30 mlynedd, ac felly mae gwerthoedd, diwylliannau, cyd-destunau sefydliadol, proffesiynau a chyn bwysiced ddefnyddwyr y GIG wedi dylanwadu’n drwm ar ein meddwl a’n harfer. Mae profiadau ffurfiannol Jen yn cynnwys gweithio’n gynnar iawn gyda chleientiaid bregus mewn gofal seiciatryddol a chael ei dylanwadu’n drwm gan y broses o wneud ystyr o’u “salwch” trwy’u straeon a’u profiadau bywyd. Mae profiadau ffurfiannol allweddol eraill Jen yn cynnwys gweithio i sefydlu rhwydweithiau a grwpiau aml-asiantaeth ar gyfer teuluoedd pan nad oedd hyn yn bodoli, a grym y gymuned fel adnodd i bawb yn ei gwaith mewn cymunedau therapiwtig (mwy o hyn i ddod!). Mae profiadau ffurfiannol Jael yn cynnwys gweithio gyda phlant a theuluoedd sydd wedi profi trawma dro ar ôl tro ac sy’n byw mewn amgylchiadau economaidd-gymdeithasol gwael ac o ganlyniad sydd â sgiliau datblygedig iawn mewn dyfeisgarwch, goroesi, a ffyrdd i fodoli ochr yn ochr â chamddefnydd gormesol o bŵer. Mae profiadau ffurfiannol allweddol ar gyfer Jael hefyd yn cynnwys ymarfer seicotherapi systemig a Bwdhaeth Zen. Rydym wedi rhannu gwneud hyn ers amser maith bellach, ers 2004, felly er nad ydym yn sicr wedi llwyddo i gael y maen i’r wal yn llwyr, rydym wedi llwybro ymhell ar hyd ein taith ddatblygu ac wedi dechrau dod yn awyddus i rannu rhai o’r patrymau a’r prosesau hynny ddaeth i’n sylw, y rheiny sydd wedi mynd a dod yn gyson, i weld beth mae eraill yn ei wneud o faterion o’r fath hefyd.
Caiff ein blogiau’u hysgrifennu gan un neu’r ddwy ohonom, ac fe’u cynhyrchir trwy’n gwaith yn Fy Nhîm Cymorth. Daw’n syniadau i ni mewn sawl ffordd: Sgyrsiau ag aelodau o’n tîm sy’n cyflawni’r gwaith hwn gyda phlant, teuluoedd a rhwydweithiau proffesiynol. Adborth gan blant a theuluoedd am yr hyn sydd ei angen arnynt a sut maent wedi gwireddu newidiadau. Cyfleoedd i ystyried a thrafod gyda’n rheolwyr, ein goruchwylwyr clinigol a’r ffrindiau proffesiynol sy’n ein hysbrydoli a’n hannog. Felly nid yw cynnwys y blog yn perthyn i ni yn unig, mae’n gynrychiolaeth o’r hyn sy’n digwydd yma yn Fy Nhîm Cymorth a phawb o fewn ein timau a’n partneriaid sy’n ymwneud â’r gwaith ac yn gwneud iddo ddigwydd. Ac eithrio’n henwau ein hunain, mae enwau y cyfeirir atynt yn ein blogiau bob amser yn cael eu newid fel bod cyfrinachedd eraill yn cael ei gadw. Yn wir, mewn parchedig ofn y cyfeirir at eraill yn ein blogiau, rhoi mynegiant i’n straeon ein hunain o’r hyn a welwn yw cynnwys ein blogiau.
Felly gwyliwch y gofod hwn. Dyma ni’n dod!
Jen & Jael